Mark Bridger
Mae dyn wedi cael ail ddedfryd o garchar am oes am ymosod ar Mark Bridger yn y carchar.
Ymosododd Juvinal Ferreira, 24, ar Mark Bridger, 47, yng Ngharchar Wakefield lai na deufis ar ôl i Bridger gael ei ddedfrydu i garchar am oes am gipio a llofruddio April Jones, 5 oed, ym Machynlleth y llynedd.
Clywodd y llys heddiw ei fod wedi defnyddio llafn rasel i dorri wyneb Mark Bridger gan dorri gwythïen.
Dywedodd Ferreira ei fod wedi ymosod ar Bridger er mwyn ei orfodi i ddatgelu ble’r oedd corff April Jones.
Cafodd April ei chipio a’i llofruddio gan Bridger ar 1 Hydref y llynedd. Nid yw ei chorff erioed wedi cael ei ddarganfod. Cafodd Bridger ei garcharu am oes yn Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Mai.
Yn Llys y Goron Leeds cafodd Ferreira ail ddedfryd o garchar am oes. Mae pum mlynedd wedi cael ei ychwanegu at yr isafswm y bydd yn rhaid iddo aros dan glo sy’n golygu na fydd yn cael ei rhyddhau cyn 2036.
Cafwyd Ferreira, sy’n dod o Gambia’n wreiddiol, yn euog o lofruddio Elaine Walpole yn Norfolk yn 2008. Cafodd ei garcharu am oes yn Llys y Goron Norwich yn 2009. Dywedodd y barnwr y byddai’n rhaid iddo dreulio o leiaf 22 mlynedd dan glo cyn cael ei ystyried am barôl.