David Cameron
Mae David Cameron wedi gofyn am y cyfle i’r Ceidwadwyr gael “gorffen y gwaith yr ydym wedi ei ddechrau” drwy ddychwelyd i rym gyda mwyafrif yn etholiad cyffredinol 2015.
Yn ei araith i gloi cynhadledd flynyddol y Ceidwadwyr, dywedodd y Prif Weinidog bod economi’r DU yn “dechrau troi’r gornel” gan addo adeiladu gwlad fyddai’n rhoi cyfle i bawb a chefnogi busnes ac addysg wrth i bethau wella.
Fe wnaeth hefyd gyffwrdd ar beth fydd maniffesto’r Torïaid yn 2015 gan ddweud y byddai’n cynnwys mesurau i atal pobl ifanc rhag hawlio budd-daliadau diweithdra ar ôl gadael yr ysgol neu’r coleg gan ddweud y dylai pob un o dan 25 mlwydd oed fod mewn gwaith neu addysg.
Ac fe wnaeth ei fwriad o leihau trethi yn glir gan ddweud y bydd y Ceidwadwyr yn parhau i “dorri trethi pobl sy’n gweithio’n galed.”
Ond rhybuddiodd hefyd o galedi pellach yn dilyn yr etholiad gan fynnu y bydd y Torïaid yn cadw at y llwybr economaidd “hyd nes y byddwn wedi talu diffyg Llafur i gyd, nid rhywfaint ohono’n unig.”
Yn ei araith, fe gyhuddodd Ed Miliband o fabwysiadu agenda gwrth-fusnes a wfftiodd ei addewidion i dorri costau byw.
Ond dywedodd ei fod yn awyddus i wneud mwy na dim ond “clirio’r llanast” a adawyd gan y weinyddiaeth Lafur.
“Gadewch i ni addo heddiw y byddwn yn adeiladu rhywbeth gwell – gwlad o gyfleoedd,” meddai David Cameron.
“Gwlad a adeiladwyd ar yr egwyddor barhaus sydd wedi ei serio yn ein calonnau. Os ydych yn gweithio’n galed, yn cadw at y rheolau ac yn gwneud eich cyfran deg yna ni ddylai unrhyw beth eich atal.”