Mae dynes feichiog o Brydain wedi marw ym maes awyr Girona yng ngogledd ddwyrain Sbaen ar ôl cael ei tharo’n wael.
Yn ôl gwasanaethau brys Catalwnia, roedd y ddynes 20 oed wedi llewygu, ond roedd wedi marw erbyn i ambiwlans gyrraedd y maes awyr.
Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdodau yn y maes awyr bod y ddynes wedi bod yn paratoi i hedfan i Birmingham gyda’i theulu.
Does dim manylion ynglŷn ag achos marwolaeth y ddynes hyd yn hyn.