Billy Connolly
Mae’r actor a’r digrifwr, Billy Connolly wedi cael triniaeth am ganser y brostad tra hefyd yn dioddef o arwyddion cynnar o glefyd Parkinson’s.

Mae’r diddanwr o Glasgow yn 70 oed ac wedi ymddangos ar lwyfannau ar draws y byd gyda’i sioeau cerdd a chomedi.

“Roedd y llawdriniaeth yn llwyddiant ac mae Billy wedi gwella,” meddai llefarydd ar ei ran.

Dywedodd bod Billy Connolly hefyd yn cael triniaeth ar gyfer clefyd Parkinson’s.

“Mae arbenigwyr wedi cadarnhau na fydd ei gyflwr yn amharu ar ei waith a bydd yn dechrau ffilmio cyfres deledu yn y dyfodol agos, yn ogystal â chymryd rhan mewn taith o theatrau o Seland Newydd yn y flwyddyn newydd,” meddai.

Mae’n briod a’r actores a’r seicolegydd Pamela Stephenson.