Mae cyn gyfarwyddwr cyffredinol y BBC Mark Thompson wedi cyhuddo cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, yr Arglwydd Patten o gamarwain y Senedd ynglŷn â thaliadau i uwch swyddogion pan oedan nhw’n gadael y gorfforaeth.
Mae’n honni bod yr Arglwydd Patten ac ymddiriedolwr y BBC Anthony Fry wedi “dweud celwydd” wrth roi tystiolaeth i Aelodau Seneddol oedd yn ymchwilio i’r taliadau dadleuol.
Fe fydd Mark Thompson yn mynd gerbron Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd ddydd Llun. Mae’n mynnu bod yr Arglwydd Patten wedi gwybod am fanylion y taliadau i gyn ddirprwy gyfarwyddwr cyffredinol y BBC Mark Byford a’r cyn bennaeth marchnata Sharon Baylay.
Dywed yr Ymddiriedolaeth eu bod yn anghytuno gyda dehongliad Mark Thompson.