David Cameron
Mae David Cameron wedi cyhoeddi y bydd £52 miliwn o gymorth dyngarol ychwanegol o’r DU yn cael ei roi i helpu’r rhai sydd wedi dioddef yn sgil y rhyfel cartref yn Syria.

Yn y cyfamser mae arweinwyr gwledydd cyfoethoga’r byd yn parhau’n rhanedig am eu hymateb i’r defnydd honedig o arfau cemegol yn Syria wrth i’r argyfwng hawlio sylw uwchgynhadledd y G20 yn St Petersburg.

Fe fydd yr arian ychwanegol o Brydain yn mynd tuag at hyfforddiant ac offer meddygol i helpu trigolion sydd wedi cael eu targedu yn yr ymosodiadau gydag arfau cemegol.

Mae David Cameron hefyd wedi galw am weithredu rhyngwladol i sicrhau bod cymorth dyngarol yn cyrraedd y safleoedd hynny ac yn galw ar arweinwyr y G20 i gyfrannu mwy i ddangos nad ymateb milwrol yw’r unig beth sy’n cael sylw yn yr uwchgynhadledd.

‘Ynys fechan’

Ar ôl colli’r bleidlais yn y Senedd wythnos diwethaf, mae David Cameron wedi ceisio osgoi cael ei adael ar gyrion y trafodaethau  ynglŷn ag ymyrraeth filwrol drwy ddwyn perswâd ar arweinwyr y G20 i gryfhau eu cefnogaeth a’u hymdrechion i leddfu dioddefaint miliynau o bobl Syria.

Cafodd y Prif Weinidog ei orfodi i wadu ei fod yn cael ei adael ar yr ymylon ddoe yn dilyn adroddiadau bod un o brif swyddogion Vladimir Putin, sy’n cynnal yr uwchgynhadledd, wedi disgrifio Prydain fel “ynys fechan: does neb yn rhoi llawer o sylw iddyn nhw.”

Mae Downing Street wedi galw am “eglurhad” o’r sylwadau ond mae llefarydd ar ran Arlywydd Rwsia wedi gwadu’r adroddiadau gan ddweud nad yw’r sylwadau yn adlewyrchu’r berthynas “bositif” rhwng Moscow a Phrydain.

Yn dilyn cinio ym Mhalas Peterhof neithiwr bu David Cameron a Vladimir Putin yn cynnal cyfarfod yn oriau man y bore ond nid yw’n glir a oedd y sylwadau wedi cael eu trafod yn ystod y cyfarfod.

Mae Rwsia wedi rhybuddio yn erbyn gweithredu milwrol yn Syria heb gefnogaeth y  Cenhedloedd Unedig.