Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi galw am fwy o dryloywder ynghylch yr effaith mae mesurau rheoli gwartheg ychwanegol wedi’u cael ar y diciâu yng ngogledd Sir Benfro.
Mae hi’n fwy na thair blynedd ers i lu o brofion a mesurau rheoli gwartheg ychwanegol gael eu cyflwyno yn yr ardal fel rhan o raglen a oedd yn wreiddiol i fod i gynnwys difa moch daear.
Ond mae gwybodaeth am effaith y mesurau ychwanegol wedi bod yn “brin a dweud y lleiaf” meddai’r undeb.
‘Hawl i wybod effaith y mesurau’
Dywedodd llefarydd Undeb Amaethwyr Cymru ar y diciâu ac is-lywydd yr undeb, Brian Walters:
“Mae’r rhai sy’n gwrthwynebu difa moch daear yn beio gwartheg am y diciâu er gwaetha’r ffaith fod gennym rhai o’r rheolau llymaf yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Os nad oes newid sylweddol wedi bod yn nifer yr achosion o’r diciâu yn yr ardal o’i gymharu â lefelau blaenorol a’r rhai mewn ardaloedd eraill tebyg, byddai’n amhosibl priodoli unrhyw newidiadau i’r camau a gymerwyd yn yr ardal.
“Fodd bynnag, mae gan ffermwyr a’r cyhoedd yr hawl i wybod pa effaith, os o gwbl, mae’r mesurau hyn wedi eu cael.”
‘Costau ychwanegol’
Dywedodd Brian Walters bod y mesurau wedi ychwanegu costau ychwanegol sylweddol i ffermwyr yn yr ardal a oedd wedi derbyn y rheolau ychwanegol ar y ddealltwriaeth y byddai difa moch daear yn digwydd.
“Er gwaethaf dwy bleidlais yn y Cynulliad o blaid cynnal rhaglen ddifa moch daear, cafodd y diwydiant ei fradychu gan Lywodraeth Cymru wedi iddyn nhw wneud tro pedol ar y mater.”
Mewn llythyr at y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies, heddiw, mae’r undeb yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad llawn yn manylu ar yr holl ystadegau a newidiadau perthnasol sydd wedi digwydd yn yr ardal ac am ddiweddariadau pellach rheolaidd pob tri neu chwe mis yn dilyn cyhoeddiad adroddiad o’r fath.
Mae’r llythyr yn nodi: “Dylai diweddariadau o’r fath gael eu defnyddio fel sail i wneud penderfyniad os yw hi’n werth parhau a’r mesurau arbennig.”
Mae’r llythyr hefyd yn gofyn bod yr arian a ddyrannwyd ar gyfer brechu moch daear yn cael ei ailddyrannu er mwyn cael ei ddefnyddio i wneud gwaith mwy ystyrlon a gwerth chweil.