Mae milwriaethwyr yn Afghanistan wedi lladd awdures o India a ysgrifennodd lyfr am ei phrofiadau o fod yn briod a dyn o Afghanistan o dan reolaeth y Taliban.
Llofruddiaeth Sushmita Banerjee yw’r diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau ar ferched blaenllaw yn Afghanistan, gan arwain at bryderon y bydd hawliau merched yn dioddef ymhellach ar ôl i luoedd America adael y wlad.
Yn ôl swyddogion yr heddlu, roedd milwriaethwyr honedig y Taliban wedi cyrraedd cartref Sushmita Banerjee yn nhalaith Paktika yn gynnar bore dydd Iau.
Roedden nhw wedi clymu ei gwr cyn mynd a hi y tu allan a’i saethu’n farw.
Cafodd llyfr Sushmita Banerjee, Kabuliwala’s Bengali Wife, ei wneud yn ffilm Bollywood yn 2003 – Escape from Taliban.