Mae mwy na 30 miliwn o bobl wedi cael negeseuon nad oedden nhw ei eisiau ynglŷn â gwneud cais yn dilyn cam-werthu yswiriant PPI, yn ôl ffigurau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.

Roedd 67% o oedolion ym Mhrydain, sy’n gyfystyr a 32 miliwn o bobl, wedi dweud eu bod wedi cael galwadau ffôn, tecst, e-bost neu lythyr ynglŷn â PPI, yn ôl ffigurau gan Cyngor ar Bopeth (CAB).

O’r rhain roedd 98% yn credu nad oedden nhw wedi rhoi caniatâd i gael eu cysylltu yn y modd yma, ac roedd mwy na hanner (55%) yn amcangyfrif eu bod wedi derbyn o leiaf 10 o negeseuon yn y 12 mis diwethaf.