Richard ac Adam
Mae Richard ac Adam Johnson, y ddau frawd o Dreffynnon wnaeth enw iddynt eu hunain ar y gyfres deledu Britain’s Got Talent, yn parhau i fod ar frig y siartiau.
Mae albwm cyntaf y brodyr, The Impossible Dream, yn parhau i fod ar frig y siart albwm, gan guro y bandiau Rudimental a Travis, a John Mayer.
Dyma’r tro cyntaf eleni i un albwm fod ar frig y siart am bedair wythnos yn ddilynol.
Mi wnaeth y brodyr dod yn drydydd yn Britain’s Got Talent y llynedd. Wrth iddyn nhw ganu ar y llwyfan yn y rownd derfynol mi wnaeth Natalie Holt, aelod o’r gerddorfa y tu cefn iddyn nhw, ddechrau taflu wyau at y beirniaid mewn protest yn erbyn y gystadleuaeth.
Roedd Richard ar Adam yn canu yn y gyngerdd Proms ar y Prom ddoe yn y Rhyl. Yn ôl y trefnwyr, roedd tua 10,000 wedi mynychu’r gyngerdd.