Mae’r cyffro yn cynyddu yn Sw Caeredin gan fod y staff yno yn dweud fod y panda Tian Tian yn parhau i fihafio mewn ffordd sy’n dangos ei bod hi mwy na thebyg yn feichiog.
Tian Tian yw’r unig panda benywaidd ym Mhrydain.
Os ydi Tian Tian yn feichiog, yna dywed y Sw eu bod nhw’n disgwyl iddi roi genedigaeth yn ystod y bythefnos nesaf.
Mae’r panda yn cael ei gwylio bob awr o’r dydd gydag offer technegol arbennig sy’n galluogi’r ciperiaid i gadw golwg arni o’u cartrefi.