Arlywydd Assad
Mae rhywun wedi saethu at arolygwyr y Cenhedloedd Unedig heddiw wrth iddyn nhw deithio i’r ardal yn Namascus a ddioddefodd ymosodiad cemegol honedig yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd un car ei daro nifer o weithiau a bu’n rhaid i’r arolygwyr roi gorau i’w taith. Ond mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud y byddan nhw’n dychwelyd cyn gynted â phosib er mwyn parhau a’u hymchwiliad i’r digwyddiad trychinebus dydd Mercher diwethaf.
Mae Arlywydd Bashar Assad wedi gwadu heddiw mai ei filwyr ef oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad cemegol honedig. Bu cryn oedi cyn i lywodraeth Syria benderfynu rhoi caniatâd i’r arolygwyr deithio i Damascus er mwyn ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd yno.
Mae David Cameron o dan bwysau i alw’r Senedd yn ôl wrth i nifer o bapurau newydd ddatgan heddiw fod Prydain a’r Unol Daleithiau yn paratoi i weithredu’n filwrol yn erbyn llywodraeth Arlywydd Bashar Assad.
Mae aelodau seneddol y meinciau cefn yn mynnu y dylai’r Prif Weinidog esbonio i’r Senedd pa gamau sydd am gael eu cymryd mewn ymateb i’r ymosodiad gydag arfau cemegol honedig yn Syria. Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi dweud yn blwmp ac yn blaen mai llywodraeth Arlywydd Bashar Assad sy’n gyfrifol am yr ymosodiad. Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, hefyd wedi dweud ei fod yn debygol iawn mai milwyr Assad oedd yn gyfrifol.
Dros y penwythnos bu David Cameron a’r Arlywydd Barack Obama yn trafod y sefyllfa yn Syria a sut y dylid ymateb i’r argyfwng mewn galwad ffôn a barodd 40 munud. Mae’r ddau wedi gofyn i’w swyddogion i edrych ar “bob opsiwn.”
Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing nad oedd unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud eto ond dywedodd bod gan y Prif Weinidog yr hawl i weithredu’n gyflym os oedd angen gwneud hynny.
Yn ôl Medecins Sans Frontiers mi wnaeth 3,600 o bobl dderbyn triniaeth yn dilyn yr ymosodiad cemegol honedig. Bu farw 355 o bobl, yn cynnwys nifer o blant.