Un o'r cystadleuwyr
Mae cannoedd o bobl wedi dod ynghyd yn Llanwrtyd ar gyfer pencampwriaethau y byd mewn snorclio corsydd.
Dyma’r 28 pencampwriaeth i’w chynnal ac mae’n denu cystadleuwyr o bob cwr o’r byd yn enwedig Ffrainc, Awstralia a Scandinafia.
Mae’r cystadleuwyr heddiw yn ceisio torri record y byd o 1 munud 26.5 eiliad am snorclio corsydd – record sefydlwyd gan Richard Addis llynedd.
Mae Llanwrtyd yn prysur fagu enw am weithgareddau awyr agored go wahanol fel ras Y Dyn Erbyn y Ceffyl a’r Wobliad Cwrw Go Iawn sef beicio mynydd tra’n llyncu cwrw o Fragdy Calon Cymru yn y dref sy’n honni mai hi yw’r dref leiaf yng ngwledydd Prydain.