Stadiwm Dinas Caerdydd
Bydd cefnogwyr pêl-droed Dinas Caerdydd sydd yn erbyn gweld tîm yr Adar Gleision yn gwisgo crysau coch yn gormydeithio o gastell y briffddinas i stadiwm y clwb heddiw cyn y gêm yn erbyn Manchester City.
Mae trefnwyr yr orymdaith “Adar Gleision Unedig” yn mynnu mai “dathlu hanes y clwb” mae nhw ac nid protestio yn erbyn penderfyniad y perchennog Vincent Tan i newid lliwiau’r clwb o las i goch llynedd.
Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd tua mil o bobl yn gorymdeithio i gêm gyntaf Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair.
Sian Branson, un o gefnogwyr Dinas Caerdydd wnaeth sefydlu “Adar Gleision Unedig” ac mae’r grŵp eisoes wedi buddsoddi mewn hysbyseb enfawr gwerth £700 dafliad carreg o’r stadiwm sy’n defnyddio’r slogan “Hanes – Hunaniaeth- Balchder”
“Mae gan bob clwb liw a bathodyn,” meddai Sian Branson. “Fe fydd rheolwyr a chwaraewyr yn mynd a dod ond yn y pendraw dyma fydd y cefnogwyr yn eu dilyn.”