Castell Aberteifi - diwedd Ras yr Iaith
Mae trefnwyr Ras yr Iaith wedi penderfynu gohirio’r digwyddiad tan y flwyddyn nesaf yn dilyn cyfarfod efo awdurodau’r priffyrdd a’r heddlu.
Roedd y ras hwyl gyfnewid o Senedd-dy Owain Glyndwr ym Machynlleth i Gastell Aberteifi i fod i gael ei chynnal rhwng 13 – 15 Medi ond yn dilyn y cyfarfod ar 21 Awst penderfynwyd gohirio tan haf y flwyddyn nesaf.
“Yn ystod y cyfarfod yn Aberaeron daeth yn amlwg i ni fod angen cadarnhau elfennau o’r Ras a hynny mewn amser tynn iawn iawn. Yn hytrach na ruthro drwy’r newidiadau, teimlwyd mai gwell fyddai cymeryd cam yn ôl a gohirio nes 2014,” meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd y Ras.
Bwriad y Ras
Bwriad y ras oedd codi proffil a chasglu arian dros y Gymraeg .
Cynhaliwyd rasus cyffelyb dros ieithoedd brodorol Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Basg ond dyma’r tro cyntaf i’r ras gael ei threfnu yng Nghymru.
“Mae Ras yr Iaith wedi dal yn nychymyg pobl ar draws Bro Ddyfi, Ceredigion a thu hwnt,” meddai Siôn Jobbins.
“Mae grwpiau mor amrywiol ag ysgolion, Merched y Wawr, clybiau rygbi a phêl-droed, busnesau a chapeli wedi eu hysbrydoli i dalu £50 i noddi cilomedr o’r Ras i ddathlu’r iaith Gymraeg ond mae ei diogelwch hwy yn flaenllaw ym meddyliau trefnwyr y Ras a’r awdurdodau,” ychwanegodd.