Y Seintiau Newydd 6–0 Port Talbot

Dechreuodd y pencampwyr dymor newydd Uwch Gynghrair Cymru mewn steil brynhawn Sadwrn wrth rwydo chwe gôl yn erbyn Port Talbot ar Neuadd y Parc.

Llwyr reolodd y tîm cartref yr hanner cyntaf er mai dim ond un gôl wych Ryan Fraughan oedd ganddynt i’w ddangos am eu hymdrechion. Ond dechreuodd y goliau lifo wedi’r egwyl gyda’r eilydd, Greg Draper, yn sgorio tair.

Dechrau Da

Dechreuodd y Seintiau ar dân gyda Fraughan yn llosgi bysedd Steven Hall yn y gôl gyda foli wych wedi dim ond tri munud. Cafodd Alex Darlington a Phil Baker gyfleoedd da i agor y sgorio hefyd cyn i Fraughan wneud hynny hanner ffordd trwy’r hanner.

Curodd ei ddyn yn rhwydd ar yr asgell dde cyn tanio ergyd gywir o gornel y cwrt cosbi i gornel uchaf y rhwyd. Dipyn o gôl a’r Seintiau yn llawn haeddu bod ar y blaen ar hanner amser.

Trefn ddigon tebyg oedd i’r ail hanner hefyd gyda’r Seintiau’n rheoli o’r dechrau’n deg ond fe ddaeth y goliau i ganlyn y chwarae twt yn yr ail gyfnod.

Peniodd Mike Wilde groesiad cywir Chris Seargeant heibio i Hall i ddechrau cyn i Darlington guro gôl-geidwad Port Talbot o ddeuddeg llath yn dilyn llawiad Lee Surman yn y cwrt cosbi.

Hatric Hwyr

Daeth Greg Draper oddi ar y fainc ar gyfer y chwarter olaf gan ddyblu cyfanswm y tîm cartref gyda hatric hwyr.

Rhwydodd ei gyntaf a phedwaredd y Seintiau eiliadau yn unig wedi dod i’r cae yn dilyn cyffyrddiad gwych Fraughan i’w lwybr, a rhwydodd yr ail wrth iddo ymateb ynghynt na neb yn dilyn arbediad Hall o gynnig Matty Williams.

Ond y drydedd oedd yr orau o bosib, wrth i’r gŵr o Seland Newydd godi’r bêl yn gelfydd o gornel y cwrt cosbi dros ben Hall yn y gôl.

Perfformiad gwych gan y Seintiau felly a rhybudd i weddill timau Uwch Gynghrair Cymru gan y pencampwyr.

Ymateb

Cyfarwyddwr Pêl Droed y Seintiau, Craig Harrison:

“Roedd o’n berfformiad gwych, sgorio chwech ond fe allai fod wedi bod yn fwy. Roedd y ffaith i ni amddiffyn yn dda yr un mor bwysig i mi, ond mae hi’n braf sgorio goliau.”

“Fe waniff Port Talbot yn dda y tymor hwn felly mae hwn yn ganlyniad da iawn.”

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Marriott, Baker, K. Edwards, Fraughan, Mullan, Seargeant (Finley 68’), Wilde (Draper 65’), Darlington (Williams 65’), A. Edwards

Goliau: Fraughan 21’, Wilde 51’, Darlington 58’ [c.o.s.], Draper 66’, 70’, 80’

Cerdyn Melyn: Wilde 37’

.

Port Talbot

Tîm: Hall, Green, Surman, Jones, Bloom, Evans, Harling, M. John (Rose 50’), Walters, Brooks (L. John 60’), Griffiths (Bell 81’)

Cardiau Melyn: Brooks 52’, Surman 58’

.

Torf: 306