Wrecsam 2–2 Hyde
Cipiodd Hyde bwynt yn erbyn Wrecsam brynhawn Sadwrn gyda chic o’r smotyn hwyr ar y Cae Ras.
Roedd hi’n ymddangos fod goliau Kevin Thornton a Junior Ntame yn mynd i fod yn ddigon i sicrhau tri phwynt i ddeg dyn y Dreigiau, ond dwynodd yr ymwelwyr bwynt hwyr gyda’u ail cic o’r smotyn o’r gêm.
Dechreuodd y gêm yn wael i’r Dreigiau wrth iddynt ildio gôl o’r smotyn yn y chwarter awr cyntaf. Troseddodd Brett Ormerod yn erbyn Louis Almond a rhwydodd Tom Collins o ddeuddeg llath.
Ond roedd Wrecsam ar y blaen chwarter awr yn ddiweddarach diolch i goliau Rhornton ac Ntamae.
Er eu bod gôl ar y blaen roedd ail hanner hir yn wynebu’r tîm cartref wedi i Jay Harris dderbyn cerdyn coch am chwarae peryglus toc cyn yr egwyl.
Daliodd y deg dyn eu gafael yn dda serch hynny tan yr eiliadau olaf un pan lawiodd arwr yr hanner cyntaf, Ntame, y bêl yn y cwrt cosbi. Scott Spencer a gymerodd y gic y tro hwn ond yr un oedd y canlyniad – Joslain Mayebi yn cael ei guro.
Doedd dim amser i’r Dreigiau daro’n ôl y tro hwn a bu rhaid i dîm Andy Morrell fodloni ar bwynt yn unig wrth i’w dechrau siomedig i’r tymor barhau. Maent yn aros yn hanner gwaelod tabl Uwch Gynghrair Skrill, yn bymthegfed gyda pum pwynt wedi pedair gêm.
.
Wrecsam
Tîm: Mayebi, Wright, Ashton, Tomassen, Ntame, Thornton (Hunt 76′), Clarke, Harris, Bishop (Anyinsah 84’), Ormerod (Evans 68′), Reid
Goliau: Thornton 24’, Ntame 27’
Cardiau Melyn: Reid 50’, Ashton 75’, Thornton79’
Cerdyn Coch: Harris 40’
.
Hyde
Tîm: Carnell, Griffin, Ashworth, Thurston (Spencer 64′), Dennis, Tomsett, Poole (Hughes 80′), Moses (Mainwaring 58′), Collins, Carlton, Almond
Goliau: Collins 13’ [c.o.s], Spencer 90’ [c.o.s]
Cerdyn Melyn: Carlton 90’
.
Torf: 3,304