Dagenham a Redbridge 1–1 Casnewydd
Mae dechrau da Casnewydd i’r tymor newydd yn yr Ail Adran yn parhau yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Dagenham a Redbridge ar Ffordd Victoria brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Chris Zebroski yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen hanner ffordd trwy hanner cyntaf gwlyb yn dilyn gwaith creu da gan Christian Jolley ac Adam Chapman, ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.
Brwydrodd y tîm cartref yn ôl yn yr ail gyfnod gan unioni’r sgôr toc cyn yr awr diolch i gôl ddigon blêr oddi ar ben glin Abu Ogogo.
Cafodd y ddau dîm gyfleoedd i’w hennill hi wedi hynny ond aros yn gyfartal wnaeth hi, gôl yr un a phwynt yr un i’r ddau dîm.
Ymateb
Rheolwr Casnewydd, Justin Edinburgh:
“Wrth ddod i le fel hyn, mae rhywun yn chwilio am bwynt. Ond wedi dechrau’r gêm mor dda a rheoli’r hanner cyntaf mae’n bechod na wnaethom ni sgorio’r ail gôl holl bwysig yna i ennill y gêm.”
Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn y saith safle uchaf yn nhabl yr Ail Adran. Maent yn chweched, dri phwynt y tu ôl i Rydychen ar y brig.
.
Dagenham a Redbridge
Tîm: Lewington, Ilesanmi, Doe, Saah, Hoyte, Elito (Bingham 46′), Ogogo, Howell, Murphy (Obafemi 89’), Scott (Hines 46′), Woodall
Gôl: Ogogo 59’
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, Pipe, Hughes, Sandell, Naylor, Worley, Chapman, Minshull, Willmott (Flynn 76′), Zebroski (Crow 82′), Jolley (Washington 63′)
Gôl: Zebroski 25’
Cerdyn Melyn: Worley 77’