Cafodd y gêm rhwng y Worcester Warriors a’r Gweilch ei gohirio tan diwedd y prynhawn yma (Sadwrn
) ar ôl i fws yr ymwelwyr fynd ar dân.

Aeth y bws ar dân ar yr M5 tra’n teithio i Abertawe y bore yma.

Chafodd neb ei anafu felly penderfynwyd bwrw ymlaen efo’r gêm gyfeillgar yn Stadiwm y Liberty am 4.30 y prynhawn.

Does neb yn gwybod hyd yma sut y dechreuodd y tân.