Mae’r parc beicio mynydd cyflawn cyntaf yn y Deyrnas Unedig wedi agor yng Nghoed Gethin ger Merthyr Tudful..
Bydd yr ymwelwyr i Bikepark Wales yn cael eu cludo i ben y mynydd ac yna yn gallu dewis un o chwe trac i feicio i lawr i’r gwaelod.
Mae’r parc wedi cael ei gynllunio yn debyg iawn i lethrau sgïo ac mae’r wefan yn disgrifio’r lle fel “canolfan sgïo heb y piste efo nifer o draciau sy’n llifo a throi.”
Cylllid
Mae’r cynllun wedi bod ar y gweill ers 25 mlynedd ac wedi denu buddsoddiadu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a chynghorau’r ardal, ac mae’r perchnogion yn ffyddiog y bydd y parc yn denu miloedd o ymwelwyr.
“Rydyn ni wedi creu canolfan gyntaf o’i bath sy’n sicr o ddod a budd sywleddol i’r ardal o safbwynt twristiaeth, meddai Cyfarwyddwr y parc, Anna Walters.
Mae Gweinidog yr Economi wrth ei bodd efo’r datblygiad. Dywedodd Edwian Hart bod y datblygiad yn un ‘eiconig’ ar gyfer Cymru fydd gobeithio, yn denu 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
“Hoffwn longyfarch y partneriaid o’r sectorau preifat, a chyhoeddus am gydweithio er mwyn gwireddu’r weledigaeth,” meddai.
Mae trigolion yr ardal wedi cael eu plesio gan y fenter hefyd.
Meddai Shaun Gibbs o Ysgol Uwchradd Hedley High ym Merthyr wrth sgwennu ar Facebook:
“Dwi wedi gwirioni cymaint….rhoi Merthyr ar y map am byth a dim y cwyno parhaol ‘da ni fel arfer yn ei gael.”