Prynhawn Sul fe fydd Abertawe yn herio Tottenham Hotspur yn White Hart Lane.

Wedi i’r Elyrch gipio buddugoliaeth neithiwr yng nghyngrair Europa, mae’n siwr bydd tîm Michael Laudrup yn obeithiol am ganlyniad tebyg yn erbyn Tottenham.

Wedi iddyn nhw golli i Man U yr wythnos diwethaf, nid oes angen poeni yn ormodol y penwythnos yma meddai un o gefnogwr yr Elyrch, Guto Llewelyn.

‘‘Rydym yn ddigon da i gael pwynt neu fwy yno.  Mi fydd hi’n ddiddorol i weld y ddau dîm yn chwarae ar ôl eu buddugoliaethau neithiwr.  Mae’n wir i ddweud bod Tottenham braidd yn sigledig heb Bale, ond mae Roberto Soldado yn chwaraewr peryglus ac yn sgoriwr naturiol felly mae’n rhaid i ni fod a ein gorau’’ meddai Guto Llewelyn.

Mae disgwyl i Ben Davies a Jonathan de Guzman ddychwelyd yn ôl i’r tîm, ond ni fydd Nathan Dyer yn y garfan oherwydd anaf i’w llinyn y gâr.

Ni fydd Bale yn chwarae yn erbyn yr Elyrch ond mae amddiffynnwr Abertawe, Neil Taylor yn gweld Tottenham fel her aruthrol.

‘‘Mae nhw’n edrych yn gryf, maen nhw wedi gwario arian i gryfhau eu carfan.  Mae gennym dîm da ac wedi ennill neithiwr, gallwn fynd i White Hart Lane yn llawn hyder,’’ meddai Taylor.

“Does dim amheuaeth fod wythnosau fel hyn yn gallu ein diffinio ni fel tîm,’’ ychwanegodd Taylor.