Mae hyfforddwr bowlio tîm criced Lloegr, David Saker wedi amddiffyn y dewisiadau a wnaed gan Loegr ar gyfer y prawf olaf yng nghyfres Y Lludw yn yr Oval.
Fe wnaeth y bowlwyr ddioddef yn ystod yr ail ddiwrnod ac fe wnaeth Awstralia gau ei batiad ar 492 – 9.
Ac mae un hen ben yn gweld bai.
“Fe wnaeth Lloegr ddechrau drwy wneud dewisiadau gwael ac yr wyf yn beio’r capten a’r hyffordwr yn bennaf am hynny a gobeithio y byddan nhw’n cyfaddef hynny ar ddiwedd y gêm,” meddai’r sylwebydd a chyn-fatiwr agoriadol Lloegr, Geoffrey Boycott.
“Ar ôl i Awstralia sgorio bron i 500 o rediadau nid wyf yn credu bod dewis dau droellwr yn mynd i helpu Lloegr.
Dyddiau cynnar
Ond mae’n rhy gynnar i feirniadu yn ôl yr hyfforddwr bowlio.
“Fe wnaetho nhw ddewis tîm i ennill y gêm ac nid yw’n deg ein beirniadu ar ôl dau ddiwrnod yn unig” meddai David Saker.
Dim ond 1 – 96 oedd cyfraniad Woakes, ac ni chafodd y troellwr llaw chwith, Simon Kerrigan yr un wiced gan ildio 53 o rediadau oddi ar wyth pelawd.
Fe sgoriodd Steve Smith ei gant cyntaf dros Awstralia yn ystod y dydd.
‘‘Yr oeddwn ychydig yn nerfus ond yn hapus iawn i gyrraedd y cant,” meddai Smith a oedd yn 138 heb fod allan ar ddiwedd y batiad.
Fe wnaeth Saker hefyd amddiffyn tactegau araf Lloegr trwy ddadlau fod y bêl yn wlyb a bod yn rhaid ei sychu neu fe fyddai mantais gan y batwyr.