Wedi’r siom o golli i West Ham yn eu gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr y penwythnos diwethaf, fe fydd Caerdydd yn wynebu talcen caletach fyth b’nawn Sul wrth i Manchester City ymweld â’r brifddinas.
Manchester City yw’r ffefrynnau clir gan nifer o bynditiaid a chefnogwyr, ond mae’r amddiffynnwr Matt Connolly yn credu y gall Caerdydd gymryd mantais o’r awyrgylch gartref.
Gobaith Conolly yw y bydd y sŵn â’r brwdfrydedd gan y dorf o 27,000 yn chwarae rhan bwysig wrth geisio trechu sêr fel Sergio Aguero, David Silva a Yaya Toure.
‘‘Rydym am brofi ein hun yn erbyn y goreuon,” meddai Connolly.
“Bydd yr awyrgylch yn aruthrol yn y Stadiwm, mae nifer yn tybio ein bod yn mynd i golli’r gêm, ond oherwydd hyn efallai y byddwn yn gallu mynd allan ar y cae gydag ychydig mwy o ryddid yn ein chwarae.”