Wayne Routledge
Dim ond canmoliaeth oedd gan reolwr Abertawe wedi i’w dîm roi sgwrfa 5-1 i Petrolul Ploiesti o Romania.
Sgoriodd Wayne Routledge ddwywaith a daeth y gôls eraill gan Michu, Wilfired Bony a Alejandro Pozuelo.
Rhwydodd Gheorghe Grozav gôl gysur i’r ymwelwyr.
‘‘Roedd sgorio pum gôl yn y cymal cyntaf yn arbennig i ni, ond mae yna waith i’w neud o hyd,’’ meddai Michael Laudrup.
Dyfodol Ki
Daeth adroddiadau o’r Eidal ddoe bod rheolwr Sunderland wedi dangos diddordeb yn y chwaraewr canol cae Ki Sung-Yueng.
Nid oedd y chwaraewr ifanc o Dde Corea yn chwarae neithiwr, ond dywedodd Laudrup ei fod wedi siarad gyda’r chwaraewr am ei ddyfodol.
‘‘Mae yna lawer o bethau yr ydym wedi trafod gyda’n gilydd, rydym yn gwybod bod y gystadleuaeth am le yn y tîm yn uchel tu hwnt, yn enwedig yn safle canol cae. Rwyf wedi siarad â Ki, ond dydw i ddim yn mynd i ddweud beth a ddywedodd.”