Mae gwefan swyddogol Real Madrid wedi bod yn gwerthu crysau gyda’r enw ‘Bale’ ag ‘11’ ar eu cefnau. Y darogan yw bod ymosodwr chwimwth a sgilgar Cymru ar ei ffordd i’r Bernabeu ar gost o £93 miliwn.
Ond wrth i rai o gefnogwyr Real Madrid geisio prynu’r crys, roedd y wefan yn araf. Yna daeth neges i ddweud nad oedd y wefan yn gweithio am ychydig er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw.
Pan ddaeth y wefan nôl ar-lein nid oedd enw Bale i weld yn unman ar y wefan. Nid oes neb wedi cynnig eglurhad am yr hyn ddigwyddodd hyd yn hyn, ond cred nifer mae’r digwyddiad yma yw’r arwydd cliriaf eto am ddyfodol Bale.
Mae crysau Real Madrid gyda’i enw ar y cefn esioes ar werth mewn siopau yn Gibraltar.