Gareth Davies, y Prif Weithredwr newydd
Mae Dreigiau Gwent a Chlwb Rygbi Casnewydd wedi cyhoeddi mai Gareth Davies sydd wedi’i benodi’n Brif Weithredwr newydd.

Fe fydd cyn-gapten Cymru yn dechrau ar ei waith ym mis Medi, ochr yn ochr â dyfodiad Lyn a Kingsley Jones i arwain y tîm hyfforddi.

Mae’r penodiadau yn arwydd o uchelgais a gweledigaeth newydd ar faes Rodney Parade, yn ôl y clwb.

Mae Gareth Davies wedi bod yn Bennaeth Chwaraeon BBC Cymru, yn ogystal ag yn Gadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru.

Mae newydd orffen ei gyfnod yn Ddeon Adran Carnegie ym Mhrifysgol Fetropolitan Leeds, ac mae hefyd wedi bod yn aelod o fwrdd Clwb Rygbi Leeds.

Gair gan Gareth

“Rwy’ wedi fy mhlesio’n arw o weld y proffesiynoldeb a’r uchelgais sydd i’w deimlo yn Rodney Parade, ymysg y Dreigiau a Chlwb Rygbi Casnewydd,” meddai Gareth Davies.

“Yr hyn wy’n gobeithio ei wneud yw adeiladu ar y seiliau cadarn sydd eisoes yma.

“Mae’n adeg gyffrous yma.”