Mae rheolwr Crusaders Gogledd Cymru, Clive Griffiths yn rhagweld gêm anodd pan fydd ei dîm yn teithio i herio Skolars Llundain nos yfory.
Mae’r Crusaders wedi chwarae’n dda ac yn llygadu dyrchafiad y tymor yma.
‘‘Dydw i ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol gyda’r gêm yma. Dyma’r cae lleiaf yn y gynghrair, rydym yn gwybod ei bod hi’n le anodd i chwarae,’’ meddai Clive Griffiths.
‘‘Ond rydym am fynd yno i geisio ennill y gêm, ac os wnawn ni hynny, bydd hyn yn gwneud ein gwaith yn erbyn Scorpions De Cymru yn llawer haws ar gyfer gêm olaf y tymor. Yn ddelfrydol hoffwn i ennill pob gêm, ond rydym yn anelu i gael o leiaf bedwar pwynt o’r ddwy gêm sy’n weddill.”
Curo Rydychen
Yn eu buddugoliaeth yn erbyn Rhydychen (54-10), fe wnaeth y Crusaders ddioddef o anafiadu yn ystod y gêm, fe wnaeth Jamie Clarke, Andy Moulsdale a Gary Middlehurst dderbyn anafiadau.
Er bod angen asesu ambell i chwaraewr, mae’r rheolwr yn meddwl na fydd unrhyw broblemau.
‘’Byddwn yn asesu’r anafiadau yn ystod y sesiynau hyfforddi. Nid oedd yr un ohonynt wedi derbyn anaf difrifol, felly rwy’n obeithiol y bydd pob un yn holliach i chwarae yn erbyn y Skolars,’’ meddai Clive Griffiths wedyn.