Heno fe fydd yr Elyrch yn croseawu’r tîm o Rwmania, Petrolul Ploiesti i’r Liberty ar gyfer cystadleuaeth cynghrair Europa.  Mae Abertawe wedi cyrraedd y rownd yma trwy guro’r tîm Malmo o Sweden 4-0.

‘‘Does dim amheuaeth mae nhw yw’r ffefrynnau, maen nhw’n dîm da â rheolwr da.  Rwy’n ymwybodol eu bod yn chwarae yn yr Uwch gynghrair ac wedi ennill y Cwpan Capital One.

“Ond er yr holl lwyddiant, mae Abertawe yn dîm sy’n chwarae pêl-droed da,’’ meddai rheolwr Petrolul Ploiesti, Cosmin Contra.

Ar ôl colli i Manchester United dros y penwythnos, mae’n debygol y bydd Michael Laudrup, rheolwr Abertawe yn newid ychydig ar ei dîm.  Mae disgwyl i Nathan Dyer a Jonathan de Guzman colli’r gêm oherwydd anafiadau.

‘‘Rwyf wedi dweud wrth y chwaraewyr bod rhaid i ni anghofio am y canlyniad diwethaf yn erbyn Manchester United.

“Mae hon yn gystadleuaeth newydd, pob tro chi’n colli gêm, mae’n bwysig i chi geisio ennill y gêm nesaf,’’ meddai Laudrup, rheolwr Abertawe.