John Yapp
Mae prop rhyngwladol Cymru John Yapp wedi ymuno â Gwyddelod Llundain ar gyfer y tymor, a hynny ar fenthyg o Gaeredin.

Fe wnaeth Yapp dros 100 o ymddangosiadau tros y Gleision, cyn ymuno â Chaeredin.  Yr oedd yn rhan o dîm y Gleision a enillodd Gwpan Amlin yn 2010.

‘‘Mae John Yapp wedi creu argraff trwy gydol ei yrfa, yn enwedig ar faes rhyngwladol.  Rwyf yn sicr y bydd yn cryfhau ein rheng flaen,’’ meddai Cyfarwyddwr Gwyddelod Llundain, Brian Smith.

Hyd yn hyn mae Yapp wedi ennill 21 o gapiau dros Gymru, ac mae’n aelod o’r tîm a gipiodd y gamp lawn yn 2005 ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Edrych ymlaen

‘‘Rwy’n hynod o falch i ymuno â Gwyddelod Llundain y tymor hwn,” meddai John Yapp.

“Fe wnaethon nhw brofi eu bod yn dîm da yn yr ail hanner o’r tymor diwetha’.

“Rwy’n edrych ymlaen at yr her o chwarae yng nghynghrair Aviva.  Fel chwaraewr yr ydych am brofi eich hun yn erbyn y goreuon, byddaf yn gallu wneud hynny gyda’r Gwyddelod Llundain,’’ meddai wedyn.