Aaron Ramsey (Llun Cymdeithas Bel-droed Cymru)
Y Cymro, Aaaron Ramsey, oedd chwaraewr gorau’r gêm wrth i Arsenal dawelu eu beirniaid ac ennill o 3-0 yn erbyn Fenerbahce yn Nhwrci.

Roedd wedi chwarae cystal nes bod y dyn doeth, Joey Barton, wedi credu ei fod yn Sais.

Mewn neges trydar yn union wedi’r gêm, fe awgrymodd y chwaraewr dadleuol fod Ramsey bellach yn chwarae’n ddigon da i gael ei ddewis i Loegr …

Nes i nifer o gyfranwyr eraill atgoffa Barton mai Cymro yw Ramsey.


Ar ei orau

Ond mae’n ymddangos bod cyn gapten Cymru yn dechrau chwarae ar ei orau eto, ar ôl blynyddoedd siomedig yn dilyn anaf difrifol.

Ef a sgoriodd ail gôl Arsenal gydag ergyd o 20 llath ac roedd ganddo ran yn y gôl gynta’ gan Gibbs.