Gareth Bale a thlysau'r chwaraewr gorau
Mae cefnogwyr Spurs fel petaen nhw’n derbyn bod Gareth Bale ar ei ffordd o Whitehart Lane.

Mae sylwadau ar wefannau answyddogol yn awgrymu mai teimladau cymysg fydd yna os yw’r Cymro’n cael ei werthu i Real Madrid am £93 miliwn.

Mae rhai’n ei gweld yn arwydd o ddiffyg uchelgais fod eu chwaraewr gorau’n gadael ond eraill yn gweld y bydd yr arian amdano’n cryfhau’r tîm yn gyffredinol.

Dyna’r ffigwr sydd bellach yn cael ei grybwyll wrth i’r sïon gynyddu ei fod ar fin mynd – mae’r rheiny wedi cynyddu ers i Spurs ddweud eu bod ar fin arwyddo’r blaenwr o Brasil, Willian.

Y syms yn gweithio

Gyda sôn am bris o £30 miliwn, fe fyddai hynny’n golygu bod y clwb wedi gwario bron £100 miliwn dros yr ha’, sy’n cyfateb bron yn union i bris Gareth Bale.

Yn Sbaen hefyd, mae yna ddisgwyl y bydd y chwaraewr canol cae ymosodol yn y Bernabeau cyn hir – mae disgwyl cyhoeddiad o fewn y dyddiau nesa’.

Yn y cyfamser, mae cyn flaenwr Cymru, Ian Rush, wedi dweud y byddai’n syniad da i Bale fynd tramor er mwyn cynyddu’i ddealltwriaeth o’r gêm.