Mae’r Blaid Lafur wedi ymosod ar gynlluniau’r Llywodraeth i breifateiddio’r Post Brenhinol gan ddatgan bod y cynllun yn ‘beryglus’.

Yr wythnos hon, fe bledleisiodd rheolwyr y Post Brenhinol yn gryf yn erbyn preifateiddio’r gwasanaeth, tra bod Undeb Gweithwyr Cyfathrebu yn bygwth streicio os nad yw’r Llywodraeth yn dod i gytundeb ynglŷn â chyflogau, pensiynau a swyddi.

Mae Llafur yn rhybuddio y bydd pobl yn gorfod teithio milltiroedd i nol parseli a llythyrau os byddai’r gwasanaeth yn cael ei breifateiddio gyda posibilrwydd i’r Post Brenhinol werthu asedau fel canolfannau dosbarthu lleol.

Dywedodd llefarydd o’r Blaid Lafur, “Fel y rhan fwyaf o gynlluniau’r Llywodraeth, mae hwn yn un sydd wedi ei wneud ar frys.

“Maen nhw eisiau gwerthu’r Post Brenhinol am bris rhad er mwyn llenwi’r bwlch yn yr economi yn dilyn methiant polisiau George Osborne fel Canghellor.”

Mae’r Blaid Lafur yn beirniadu’r Llywodraeth am beidio â datgan beth yw’r effaith posib ar gymunedau os y  bydd y Llywodraeth yn symud ymlaen gyda’r cynlluniau.