Mae dyn 27 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, ar ôl i ddyn gael ei drywanu o flaen ei gartre’ yn Basingstoke, Hampshire.

Fe gafodd Stephan Hollow, 53, ei anafu â chyllell tua 4.30yp ddydd Llun (Awst 19). Fe gafodd ei gludo i ysbyty North Hamphire mewn ambiwlans awyr, ond bu farw o ganlyniad i’w anafiadau.

Mae ditectifs sy’n gweithio ar yr achos yn credu mai digwyddiad ynysig ydi hwn, a bod y ddau ddyn dan sylw yn nabod ei gilydd.

Fe fydd William John Smith, hefyd o Basingstoke, yn ymddangos gerbron llys ynadon heddiw, wedi’i gyhuddo o lofruddio Stephan Hollow, ac o ymosod yn gorfforol ar ddyn 22 oed.