Mick Deane
Mae dyn camera Sky News wedi cael ei saethu’n farw wrth ffilmio’r gwrthdaro yn yr Aifft, meddai’r darlledwr heddiw.

Roedd Mick Deane, 61,  yn briod gyda dau fab. Roedd wedi gweithio i Sky News ers 15 mlynedd ac yn cyd-weithio gyda gohebydd y Dwyrain Canol, Sam Kiley, pan gafodd ei saethu.

Dywed Sky bod gweddill y tîm oedd yn ffilmio’r gwrthdaro yn Cairo ar y pryd yn ddiogel ac nad oedden nhw wedi cael eu hanafu.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron ar Twitter ei fod wedi ei dristau o glywed am farwolaeth Mick Deane, a’i fod yn cydymdeimlo gyda’i deulu a’i gydweithwyr yn Sky News.

Mae pennaeth Sky News John Ryley wedi disgrifio Mick Deane fel y dyn camera “gorau yn ei faes, newyddiadurwr arbennig ac ysbrydoliaeth i nifer yn Sky.”

Yn ôl swyddogion yn yr Aifft mae 56 o bobl wedi cael eu lladd yn y gwrthdaro rhwng lluoedd diogelwch a chefnogwyr y cyn Arlywydd Mohammed Morsi ond mae’n debyg bod nifer y meirw yn llawer uwch.