Mae gofalwyr panda anferth yn Sŵ Caeredin yn credu ei bod yn dangos arwyddion ei bod yn feichiog.
Y gred yw y gallai Tian Tian fod y gyntaf i eni panda bach ym Mhrydain.
Awgryma newid yn lefelau protein a hormonau’r panda bod y tarw potel gafodd hi fis Ebrill wedi llwyddo.
Hefyd mae ei gofalwyr wedi cofnodi newid yn ei hymddygyiad, megis diffyg awch am fwyd, methu aros yn llonydd a nythu drwy greu gwely gwellt.