Philip Frederick Murphy
Mae dyn 28 oed o Gaergybi wedi ei garcharu am dreisio dynes yn y dref ar Fai’r pumed y llynedd, ac ymosod ar dair dynes arall.
Cafodd Philip Frederick Murphy ei ddedfrydu i saith mlynedd dan glo, a bydd ei enw ar Gofrestr Troseddwyr Rhyw.
Roedd hi’n bwysig creu’r argraff bod y math yma o drosedd yn cael ei drin yn ddifrifol, yn ôl y swyddog fu’n ymchwilio i’r achos.
Meddai’r Ditectif Gwnstabl Stephen Watts: “Mae’n bwysig cynnig sicrwydd i bob haen o’r gymuned bod Heddlu’r Gogledd ar gael i ddarparu cefnogaeth arbenigol cymwys i helpu dioddefwyr pob cam o’r ffordd. Mae Heddlu’r Gogledd yn hollol o ddifrif wrth drin materion fel hyn ac felly mae’n galonogol gweld hyn wedi ei adlewyrchu yn y ddedfryd.”