Rhai o aelodau Edward H Dafis yn paratoi at y perfformiad
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi gorfod symud byrddau a chadeiriau o’r neilltu ger y llwyfan perfformio ar gyfer ymddangosiad y band Edward H Dafis heno.

Dywedodd y Prif Weithredwr Elfed Roberts wrth Radio Cymru y bore yma fod yna le i 3,500 o bobol fedru gwylio’r perfformiad, a bod modd i fwy wrando ar y band ar y Maes.

Yr un tocyn wedi ei werthu

Roedd si ar led ar y Maes fod dros 3,000 o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y gig. Ond mae’r Prif Weithredwr wedi gwadu hynny a chadarnhau na fydd yr un tocyn yn cael ei werthu hyd nes y prynhawn yma.

Mae rhai’n poeni y bydd sŵn Edward H Dafis yn amharu ar gystadleuaeth corau yn y pafiliwn pinc, ac y radio y bore yma yr oedd canwr Edward H, Clive Harpwood, yn awgrymu y gallai’r band fynd ar y llwyfan yn hwyrach na’r disgwyl, sef chwarter wedi wyth.

Gig boblogaidd arall draw yn Steddfod Dinbych heno yw un Bryn Fôn a’r Band yn Neuadd y Dref – mae’r tocynnau i gyd wedi eu gwerthu.