Glesni Haf Jones, yn wreiddiol o’r Wyddgrug ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, yw enillydd Medal Ddrama yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae ei gwaith buddugol yn adrodd hanes merch ifanc sydd ar fin priodi hen ddyn – hen gariad ei mam – ac mae’n treulio ei noson iâr gyda’i hunig ffrind, Cadi Wyn. Mae ei thad, Tryweryn, yn byw yn Lerpwl, ac yno y mae’r ddrama’n digwydd.
Ganwyd Glesni Haf Jones ei hun yn 1986, a derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Glanrafon ac Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug. Graddiodd mewn Cymraeg a Drama o Brifysgol Aberystwyth, cyn troi am y brifddinas.
Bellach, mae’n gweithio i gwmni ymchwil Beaufort Research, ac yn byw yn Grangetown, Caerdydd.