Mae nifer yr ymwelwyr â Maes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi croesi’r 100,000.

Fe ddaeth 19,864 o bobol trwy gatiau Maes Fferm Kilford ar gyrion tre’ Dinbych heddiw, gan fynd â’r cyfanswm ar gyfer y chwe diwrnod hyd yn hyn i 107,862.

Mae’r haul wedi bod yn gwenu ar yr eisteddfodwyr heddiw, ac mae’n addo tywydd sych ond cymylog am weddill yr wythnos.