Karen Owen
Fe enillodd bardd, llenor a newyddiadurwraig un o brif wobrau llefaru’r Eisteddfod – er nad oedd wedi cystadlu ar hynny mewn unrhyw eisteddfod erioed o’r blaen.
Karen Owen, sy’n cyfrannu at Golwg 360 o’r brifwyl, a enillodd y Gystadleuaeth Llefaru i rai dros 25 oed, gan guro cystadleuwyr profiadol i gipio’r wobr o £125.
“Dyma’r tro cyntaf i fi gystadlu ar y llefaru ers pan o’n i’n wyth oed yn y capel,” meddai’r awdur, sy’n un o gyn olygyddion Golwg, yn ohebydd i’r Cymro ac yn dod o Benygroes.