Doctor Who
Mae’r BBC wedi datgelu’r Doctor Who newydd – sef Peter Capaldi.

Cafodd y Doctor newydd ei ddatgelu ar raglen arbennig ar BBC One.

Mae’n fwyaf enwog am chwarae rhan y ‘spin doctor’ Malcolm Tucker yn ‘The Thick of It’.

Ef oedd ffefryn y bwcis i olynu Matt Smith.

Y dyn 55 oed fydd y 12fed person i chwarae’r rhan.

Mae’r un oed ag oedd y Doctor cyntaf, William Hartnell, pan ddechreuodd y gyfres yn 1963.