Cor y Wiber yn ennill teitl Cor Cymru ynghynt eleni (Llun S4C)
Mae côr merched o Ddyffryn Teifi wedi rhoi coron ar flwyddyn eithriadol trwy ennill un o brif gystadlaethau’r Genedlaethol.
Côr y Wiber a enillodd gystadleuaeth y corau dan 35 o leisiau, gan guro rhes o enwau adnabyddus – fe enillon nhw’r llynedd hefyd yn eu blwyddyn gynta’ a chipio teitl Côr Cymru S4C eleni.
Roedd yn ail fuddugoliaeth i’w harweinydd, Angharad Thomas, eleni hefyd. Ddoe roedd ar y llwyfan yn derbyn gwobr y côr cymysg dros 45 o leisiau yn arwain Cor Crymych.