Mae bron 35,000 o bobol wedi bod yn Eisteddfod Sir Ddinbych a’r Cyffiniau ar ddiwedd yr ail ddiwrnod.
Mae hynny’n cymharu’n ffafriol gydag eisteddfodau’r gorffennol agos – gyda dim ond Glynebwy’n sylweddol uwch, pan oedd mynediad am ddim ar y dydd Sul.
Fe ddaeth y glaw’n rhy hwyr i gadw pobol draw a, hyd yn hyn, mae’r ddaear i’w gweld yn ymdopi – ond fe fydd fory’n brawf pwysig gyda’r seremoni fawr gynta’, y Coroni.