Mae cyflwynydd teledu wedi datgelu iddi dderbyn neges ar wefan Twitter yn bygwth ei ffrwydro â bom.
Roedd pennaeth y safle ym Mhrydain wedi ymddiheuro oriau ynghynt ynglŷn â’r “troliau” oedd yn ymosod ar fenywod ar y safle.
Dywedodd Mary Beard, sy’n athro yn y clasuron ym Mhrifysgol Caergrawnt, ei bod hi wedi cysylltu â’r heddlu ar ôl derbyn y neges neithiwr.
Roedd y neges yn dweud bod bom wedi ei adael y tu allan i’w chartref.
“Newydd dderbyn un o’r negeseuon yna. Mae bom y tu allan i’ch cartref. Fe fydd yn ffrwydro am 10.47pm yn union a dinistrio popeth. Wedi dweud wrth yr heddlu.”
Bydd nifer o drydarwyr adnabyddus yn cymryd hoe o’r safle heddiw er mwyn protestio yn erbyn negeseuon ymosodol o’r fath.