Ed Miliband
Mae AS Llafur wedi rhybuddio bod arweinyddiaeth y blaid yn gwneud “camgymeriad anferth” drwy “gysgu” yn ystod gwyliau’r haf yn hytrach nag ymosod ar y Ceidwadwyr.
Daw’r sylwadau gan yr AS Graham Stringer ddyddiau yn unig wedi i AS arall o’r blaid, George Mudie, rybuddio eu bod nhw’n ymddangos yn “ansicr” ac yn “ddryslyd”.
Mae pôl yn y Mail ond Sunday heddiw yn awgrymu y byddai 15% o bleidleiswyr Llafur yn dewis David Cameron dros Ed Miliband mewn cystadleuaeth arlywyddol rhwng y ddau.
Roedd 53% o bleidleiswyr Llafur yn cytuno bod Ed Miliband yn “betrusgar”, 48% ei fod yn “ansicr o’i hun”, 45% ei fod yn “ddifflach” a 37% ei fod “wedi drysu”.
Daw’r sylwadau a’r pôl piniwn ar ddiwedd wythnos anodd i’r Blaid Lafur, wedi iddyn nhw ddod yn ail pell i Blaid Cymru yn isetholiad Ynys Môn ddydd Iau.
“Mae Cabinet yr wrthblaid bron a bod yn anweledig er ei fod yn gyfle perffaith i ymosod ar weinidogion sydd bant yn bolaheulo,” meddai Graham Stringer.
“Mae’r camgymeriad anferth ac nid yw’n ddigon da. Ac angen i ni fod yn llawn egni yn hytrach na’n hepian cysgu.”