Keith Davies
Bydd Aelod Cynulliad yn trafod ei brofiad o golli’r gallu i siarad Saesneg ar faes yr Eisteddfod yfory.
Cafodd Keith Davies driniaeth niwrolegol fis Medi’r llynedd ar ôl dioddef o geulad gwaed ar ei ymennydd.
O ganlyniad i’r salwch collodd y gallu i siarad Saesneg, ac fe drodd yn ôl at y Gymraeg, meddai.
Dywedodd nad oedd y staff oedd yn ei drin yn gallu siarad Cymraeg ag ef.
Bydd yn anerch cyfarfod trawsbleidiol wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith i drafod safonau iaith ar y maes am 11.30am ddydd Llun, ym Mhabell y Cymdeithasau.
‘Neb yn deall’
“Mae fy mhrofiad personol i a fy nheulu yn dangos ei fod yn anodd iawn cael triniaeth yn Gymraeg,” meddai wrth y South Wales Evening Post.
“Pan oeddwn i yn yr ysbyty fe gollais i’r gallu i siarad Saesneg.
“Mae Heddyr fy ngwraig wedi adrodd yr hanes i mi gan nad ydw i’n gallu cofio’r cyfnod.
“Doedd neb yn deall beth oeddwn i’n ei ddweud am fy mod i’n siarad Cymraeg.”
Dywedodd fod ei deulu wedi cael trafferthion wrth gael triniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd o’r blaen.
“Pan oedd fy mab Iolo yng Ngorslas pan oedd yn iau, dim ond Cymraeg yr oedd yn gallu ei siarad,” meddai.
“Doedd gan y nyrs a ddaeth i’w weld ddim gair o Gymraeg. Roedd rhaid i fi gyfieithu popeth. Felly mae’n bwysig bod staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gallu siarad Cymraeg.
“Mae Gwenda Thomas [y Gweinidog Iechyd] wedi dweud bod angen gwella ar hyn – a gobeithio y bydd y safonau iaith newydd yn fodd i wireddu hynny.”