Mae canran y merched sy’n ennill y prif gyflog yn eu cartrefi yn uwch yng Nghymru nac yn Lloegr.

Yn ôl yr ystadegau gan felin drafod Public Policy Research, mae 31% o’r teuluoedd yng Nghymru yn cael eu cynnal yn bennaf gan gyflog menyw.

Dim ond yn yr Alban oedd y ffigwr un uwch – o 1%.

Mae hynny’n cymharu â 26% yng ngorllewin a de-ddwyrain Lloegr, a 27% yn unig yn Llundain.

Dywedodd Public Policy Research bod y ffigyrau’n dangos cynnydd mawr yn nifer y merched oedd yn ennill mwy na’r dynion.

Ar draws Prydain mae mwy na 2.2 miliwn o ferched yn ennill cyflogau mwy na’r dynion yn eu cartrefi – cynnydd o 83% ers 1996/97.

Tueddiadau

“Mae’r ymchwil hwn yn dangos bod mwy o ferched yn cynnal eu teuluoedd nag erioed o’r blaen,” meddai’r adroddiad.

“Mae’r newid yma yn amlygu sawl tueddiad: gan gynnwys rhagor o ferched yn y gweithle, a newidiadau yn strwythur y teulu.

“Mae hefyd yn adlewyrchu’r ffaith bod cyflogau dynion sydd ddim yn cael eu talu ryw lawer wedi aros yn eu hunfan dros y blynyddoedd diwethaf.”

Yn ôl yr adroddiad roedd hyn yn profi’r angen am:

• Well gofal plant

• Rhagor o hyblygrwydd yn y gweithle

• Ganiatáu cyfnodau tadolaeth hirach

Roedd 35% o famau oedd â gradd prifysgol yn ennill mwy na’u partneriaid.