Y Pafiliwn Pinc
Roedd 16,571 o bobl wedi ymweld â maes yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn cynta’r brifwyl, yn ôl y trefnwyr.

Mae hynny ychydig yn llai na’r 18,207 oedd ym Mro Morgannwg y llynedd, a’r 17,881 yn Wrecsam y flwyddyn flaenorol.

Ond roedd mwy yn troedio’r maes nag oedd wedi ymweld â Glyn Ebwy ar yr un diwrnod yn 2010, sef 14,702.

Roedd tua’r un faint o bobl wedi ymweld â’r Eisteddfod ddiweddaraf i’w chynnal yn y gogledd-ddwyrain, sef Sir y Fflint yn 2007. Roedd 16,710 wedi ymweld ar y dydd Sadwrn bryd hynny.

Roedd haul braf i groesawu ymwelwyr y maes ddoe, wrth i gorau cymysg a bandiau pres gystadlu yn y pafiliwn.

Daeth 2,202 hefyd i’r maes ar gyfer y gyngerdd agoriadol nos Wener.

Mae disgwyl cymysgedd o law ac ysbeidiau heulog ar y maes heddiw.