Bardd lleol oedd enillydd cynta’ gwobr newydd i gofio am y cyn Archdderwydd, Dic Jones.
Arwel Emlyn Jones o’r Rhuthun a gafodd Dlws Dic yr Hendre am yr englyn yn Eisteddfod Sor Ddinbych, gan dderbyn y wobr o ddwylo gweddw Dic Jones, Sian.
Roedd ei englyn i’r Castell, yn cyfeirio at Gaer Arianrhod y Mabinogion, yn “llawn hud a lledrith”, meddai’r beirniad, Rhys Dafis.
Enwau adnabyddus
Roedd yna enwau adnabyddus eraill ymhlith yr enillwyr barddoniaeth a rhyddiaith a gafodd eu cyhoeddi am y tro cynta’ ar ddiwrnod cynta’r ŵyl.
Vivian Williams o Flaenau Ffestiniog a enillodd ar y ddychangerdd.
Huw Evans, Alltgoch, Cwrtnewydd, oedd enillydd y gerdd i’w llefaru.
D. Emrys Williams, Llangernyw, a enillodd ar yr englyn digri.
John Emyr o Gaerdydd oedd enillydd y delyneg.
I Vernon Jones, Bow Street, yr aeth gwobr y soned.
Gwyn Lloyd, Llanfairpwll, a aeth â hi ar y cywydd deuddeg llinell.
Y baledwr buddugol oedd John Eric Hughes, Abergele.
Enillydd lleol arall – Berwyn Roberts o Ddinbych – oedd ar yr englynion cildwrn.
Doedd neb yn deilwng ar yr Hir a Thoddaid.
Yr englyn buddugol
Dyma’r englyn a enillodd Dlws Dic yr Hendre i Arwel Emlyn Jones:
O’n tai ar dwyni tywod, a’r heulwen
Dros yr heli’n darfod,
Nid yw’r bae ond breuder bod
Ger unrhyw Gaer Arianrhod.