Mae barnwr yng Ngogledd Iwerddon wedi datgan bod rhaid i’r llofrudd Michael Stone dreulio o leiaf pum mlynedd arall yn y carchar ar ôl lladd tri mewn angladd yng ngorllewin Belfast yn 1988.
Cafodd Michael Stone, 58, ei ddedfrydu i 30 mlynedd yn y carchar am lofruddio tri o alarwyr mewn angladd ar gyfer tri Gweriniaethwr ym mynwent Milltown. Roedd Michael Stone wedi ymosod ar y galarwyr gyda gwn a ffrwydradau gan ladd tri ac anafu dros 50.
Cafodd Michael Stone ei ryddhau o’r carchar yn 2000 fel rhan o’r cytundeb heddwch ond cafodd ei anfon yn ôl i’r carchar yn 2006 am geisio lladd Llywydd Sinn Fein, Gerry Adams a’r Dirprwy Brif Weinidog Martin McGuinness yn adeilad y Senedd ym Melfast.
Bydd achos Michael Stone yn cael ei gyfeirio at y Comisiynydd parôl yn 2015 ond nid oes posibilrwydd iddo gael ei ryddhau cyn 2018.